
Stori hyfryd am berthynas Dafydd a'i dad prysur. Addas i blant o dan 7 oed. Darluniwyd gan Jac Jones. Cyfuniad deniadol o stori annwyl Manon Steffan Ros a lluniau lliwgar Jac Jones sy'n dod a'r testun yn fyw i'r darllenwyr ifanc. Mae Dafydd yn ceisio cael ei dad i wneud pethau e.e. chwarae pel-droed, mynd at yr afon, ond mae ei dad yn rhy brysur wrth y gwaith t. Felly, mae Dafydd yn gwneud cuddfan yn y gwrych ac yn syrthio i gysgu. Pan mae ei dad yn gweiddi arno ei bod hi'n amser cinio, mae'n mynd i chwilio am Dafydd ac yn sylweddoli beth sy'n bwysig mewn gwirionedd. Llyfr 32 tudalen, yn llawn lluniau lliw.
Page Count:
32
Publication Date:
2013-01-01
ISBN-10:
1847717527
ISBN-13:
9781847717528
No comments yet. Be the first to share your thoughts!